Cwestiynau Cyffredinol y Ffî Hepgor Difrod Damweiniol (HDD)
Beth yw’r Cynllun Hepgor Difrod Damweiniol (HDD)?
Mae'r ffî Hepgor Difrod Damweiniol yn ffî bychan, nad yw'n cael ei ad-dalu, y gellir ei godi pan yn archebu ac yn eich diogelu chi, y perchennog, pan fo difrod yn cael ei wneud i'ch eiddo yn ystod arhosiad gwestai. Cynigir y cynllun hepgor i westeion fel dewis arall yn lle'r Blaendal Difrod Damweiniol ad-daladwy presennol (BDD) ac ar hyn o bryd mae'n cael ei godi ar 10% o'r swm hwn.
Er enghraifft: os yw'r ffî BDD ad-daladwy yn £200, bydd y ffî HDD na fydd yn cael ei ad-dalu yn £20.
Bydd gwestai yn cael yr opsiwn i ddewis naill ai'r ffî hepgor (na fydd yn cael ei ad-dalu) neu'r blaendal diogelwch ad-daladwy safonol pan yn archebu. Pan fydd y cwsmer yn dewis y ffî hepgor, byddwn yn talu costau trwsio unrhyw ddifrod damweiniol (a ystyrir yn uwch na'r draul arferol) sy'n digwydd yn ystod eu harhosiad, hyd at werth y Blaendal Difrod Damweiniol a osodwyd ar yr eiddo.
Beth yw manteision cynnig y Ffî Hepgor Difrod Damweiniol i mi?
Rydym yn cynnig opsiwn Ffî Hepgor Difrod Damweiniol i wella'r profiad gosod i'n perchnogion a'r profiad archebu i'n gwesteion gan ei fod yn rhoi tawelwch meddwl i'r ddwy ochr. Mae'r BDD ad-daladwy a'r HDD yn caniatáu inni eich amddiffyn chi a'ch gwesteion rhag difrod, heb ffî, tra bod rhoi dewis i westeion rhwng y blaendal a'r ffî hepgor yn helpu'r rhai nad ydynt yn gallu talu'r swm ad-daladwy uwch ymlaen llaw ac a fydd wedyn yn methu bwrw ymlaen â'r archeb.
Mae'r HDD hefyd yn ei gwneud hi'n haws ac yn gynt i chi dderbyn unrhyw arian yn ymwneud â hawliad gan ei fod yn dileu unrhyw sgyrsiau negodi gyda'r gwesteion. Yn wahanol i'r cynllun hepgor, os yw gwestai'n dewis yr opsiwn blaendal ad-daladwy, ar hyn o bryd mae angen i ni drafod gyda nhw a chyda chi nes y cytunir ar swm cyn dosbarthu/rhyddhau unrhyw arian.
Y ffeithiau: Ar hyn o bryd mae 89% o'n perchnogion yn cynnig yr opsiwn HDD i'w gwesteion a gallwn weld bod 85% o westeion o'r holl archebion y llynedd wedi dewis yr opsiwn hwn yn lle opsiwn y BDD ad-daladwy.
Sut mae’r Cynllun Hepgor Difrod Damweiniol yn gweithio?
I westeion sy'n dewis yr HDD, byddant yn talu tâl bychan, na fydd yn cael ei ad-dalu, bydd y tâl hwn yn talu am unrhyw ddifrod sy'n cael ei achosi yn ystod eu harhosiad. Bydd y tâl hwn (er yn fach) hefyd yn diogelu'r perchennog am y swm BDD ad-daladwy llawn os gwneir hawliad. Yn wahanol i'r BDD lle rydym yn dal yr arian sydd gennych chi a'ch gwesteion nes y bydd cytundeb, mae'r cynllun hepgor yn dileu llawer o drafodaethau sy'n golygu y byddwch yn derbyn swm eich hawliad yn llawer cynt.
Uchafswm y Bobl sy'n Aros |
1 |
2-3 |
4-5 |
6-7 |
8-9 |
10 |
11+ |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwerth Blaendal Difrod Damweiniol (BDD) |
£100 |
£150 |
£200 |
£250 |
£350 |
£400 |
£500 |
Gwerth y Ffî Hepgor (HDD) |
£10 |
£15 |
£20 |
£25 |
£35 |
£40 |
£50 |
Sut mae gwneud cais os yw'r gwestai wedi dewis yr opsiwn Hepgor Difrod Damweiniol?
Y peth gorau am y cynllun hepgor yw nad oes dim yn newid i chi o ran gwneud hawliad am ddifrod. Bydd yn ofynnol o hyd i chi gysylltu â'ch rheolwr cyfrif perchennog, o fewn 72 awr, os gwelwch fod unrhyw ddifrod wedi digwydd yn eich eiddo, a byddwch hefyd yn dal i gael eich diogelu am swm gwreiddiol y BDD ad-daladwy. Os yw eich eiddo'n cael ei reoli gennym ni, gall eich glanhawr/ceidwad tŷ gysylltu â ni i wneud yr hawliadau.
A oes modd talu'r opsiwn HDD ar bob archeb?
Mae'n bosib talu'r ffî hepgor ar unrhyw archeb sy'n para hyd at bythefnos ac ar gyfer yr eiddo hynny sydd â BDD ad-daladwy presennol sy'n werth mwy na £50. Ar hyn o bryd mae'r archebion yma wedi'u heithrio o'r cynllun.
Beth mae'r HDD yn ei roi i'r cwsmer?
Mae'r Cynllun Hepgor Difrod Damweiniol yn rhoi dewis arall am gost is, nad yw'n cael ei ad-dalu i'r gwesteion, yn lle'r Blaendal Difrod Damweiniol. Mae'r cynllun hepgor yn caniatáu i westeion ymlacio a mwynhau eu gwyliau – gan wybod, os bydd damwain yn digwydd, y byddwn yn talu costau trwsio unrhyw ddifrod damweiniol, hyd at werth y Blaendal Difrod Damweiniol ar gyfer yr eiddo y maen nhw'n aros ynddo.
Nid yw'r cynllun yn rhoi unrhyw amddiffyniad i westeion rhag difrod sy'n cael ei achosi yn fwriadol, a bydd disgwyl iddyn nhw dalu costau gwneud yn iawn am hwn i chi, y perchennog, o hyd.
A yw'r HDD yn yswiriant?
Nid yw ein Cynllun Hepgor Difrod Damweiniol yn yswiriant. Rydym yn cynnig y dewis i bob person sy'n mynd ar wyliau i dalu Blaendal Difrod Damweiniol ad-daladwy (y telir yn ôl iddyn nhw ar ôl eu gwyliau) neu i dalu am gynllun hepgor na fydd yn cael ei ad-dalu (sy'n golygu y byddwn yn talu costau difrod damweiniol hyd at swm y blaendal). Gobeithiwn y bydd cost hawliadau yn is na'r incwm sy'n deillio o gymryd rhan yn y cynllun hepgor, ond dyma ein risg a'n cyfrifoldeb ni fel asiantaeth.
Ble gallaf gael mwy o wybodaeth am yr HDD?
Os ydych wedi darllen ein Cwestiynau Cyffredinol, ond mae gennych rai cwestiynau o hyd am y cynllun hepgor, cysylltwch â'ch RhCP a fydd yn gallu rhoi rhagor o fanylion i chi am y cynllun a sut y gallwch ymuno ag ef.